Skip to main content

Hygyrchedd

W3C – Gwasanaeth Dilysu

Adeiladir y wefan hon gan ddefnyddio côd sy’n cydymffurfio â safonau’r World Wide Web Consortium (W3C) ar gyfer XHTML a Cascading Style Sheets. W3C yw’r awdurdod llywodraethol ar safonau ac arferion datblygu’r we. Mae’r safle’n arddangos yn gywir gyda phorwyr cyfredol, ac mae defnyddio côd XHTML safonol yn golygu y gall unrhyw borwyr yn y dyfodol hefyd arddangos y wefan hon yn gywir.

Adborth

Os cewch unrhyw broblem wrth geisio cael mynediad at unrhyw wybodaeth ar y safle, cysylltwch â ni a gwnawn ein gorau i ddarparu’r wybodaeth mewn modd priodol.

Sut mae pobl ag anableddau yn defnyddio’r We?

Gall pobl ag anableddau, megis nam ar eu golwg, ddefnyddio technolegau cynorthwyol i ddefnyddio’r We. Mae technolegau cynorthwyol yn cyfeirio at gynhyrchion a ddefnyddir gan bobl ag anableddau i’w cynorthwyo i gwblhau tasgau na fyddent fel arall yn gallu ei wneud yn hawdd.

Mae nifer o ffurfiau gwahanol ar dechnoleg gynorthwyol, ac mae rhai o’r rhain yn cynnwys:

  • Synthesis llais (allbwn llais)
  • Bysellfyrddau neu switsys amgen
  • Braille a Braille adnewyddadwy
  • Chwyddwydrau sgrin
  • Hysbysiad sain
  • Darllenwyr sgrin
  • Adnabod llais
  • Porwyr testun
  • Porwyr llais

Mae’r canllawiau hygyrchedd a ddilynwn yn cynnwys:

  • Caniatáu i ddefnyddwyr reoli maint testun
  • Defnyddio math ffont hawdd ei ddarllen
  • Sicrhau cyferbyniad lliw addas yn y blaendir a’r cefndir
  • Defnyddio gramadeg clir a syml
  • Darparu cyfatebiadau testun ystyrlon ar gyfer lluniau
  • Darparu gwe-lywio syml a chyson
  • Darparu llwybrau gwe-lywio byr ar gyfer defnyddwyr porwyr a darllenwyr tudalennau testun yn unig
  • Defnyddio strwythur marcio addas i gael y budd gorau o gefnogaeth porwr
  • Sicrhau bod yr holl gynnwys a’r ymarferoldeb ar gael i ddefnyddwyr heb ddalen arddull y cynnwys (content style sheet – CSS), cefnogaeth lluniau a sgript

Rhagor o gymorth

Os oes gennych nam ar eich golwg, rydym yn awgrymu i chi ymweld â gwefan RNIB am gyngor arbenigol ynglŷn â darllenwyr sgrin amgen, chwyddwydrau sgrin a dyfeisiau eraill sydd ar gael ac sy’n gallu gwneud defnyddio cyfrifiadur yn haws ac yn fwy pleserus.

Rydym hefyd yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld â gwefan AbilityNet, prif ymgynghoriaeth y DU ym maes cyfrifiadura ac anabledd.